|
Hen Wlad Fy
Nhadau
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd
a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Tros
ryddid gollasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol
wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r hen iaith
barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn,
pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw
si Ei nentydd, afonydd, i mi.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei
droed, Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan
erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy
ngwlad.
|